Manteision
Mae llawer o fanteision o weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Yr ystod gyflog ar gyfer y graddfeydd hyn yw:
- EB2 £67,100 - £76,990
- EB1 £53,440 - £63,900
- Bydd unigolion y mae telerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn berthnasol iddynt yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
- Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i’ch helpu i daro’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
- Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Manteision eraill:
- Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff i reoli’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith drwy weithio gartref (yn amodol ar anghenion y busnes ac a yw’n briodol ar gyfer y rôl)
- Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swyddi, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (yn amodol ar anghenion y busnes ac a yw’n briodol ar gyfer y rôl)
- Cynllun Car Gwyrdd – Mae’r cynllun hwn yn caniatáu ichi brydlesu car allyriadau carbon isel-iawn newydd sbon a thalu amdano drwy aberth cyflog
- Cyllid Cefnogol – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Beicio i’r Gwaith a mwy
- Absenoldeb Rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
- Amser Llesiant – Awr lesiant bwrpasol bob wythnos i’w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed hynny er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrio neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn
- Tâl – cynyddrannau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
- Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi’u teilwra i’ch rôl
- Talu am danysgrifiadau proffesiynol pan fo aelodaeth iddynt yn un o ofynion y swydd
- Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle y mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod yn nhw eu hunain ac nad oes neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn eu herbyn
- Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn gan gynnwys: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda’n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LHDTC+) a llawer mwy
- Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fo’u hangen fwyaf
- Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i reoli eu hiechyd meddwl
- Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 a fydd yn rhoi gwell hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
3 Undeb – Mae 3 undeb yn weithredol yn ein sefydliad ar hyn o bryd
Cyfleoedd
Diolch i chi am gyflwyno'r ffurflen hon, cewch eich ailgyfeirio i gwblhau'r broses ymgeisio.
Os nad ydych yn ailgyfeirio o fewn 3s, cliciwch ar y botwm isod
Parhau