Language Switcher

Carousel

About us

Gwybodaeth am Lywodraeth Cymru

About Welsh Government Welsh Version Picture

Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb flynyddol o ryw £18 biliwn ac mae’n gyfrifol am ystod o feysydd gan gynnwys iechyd, addysg a sgiliau, yr economi a thrafnidiaeth, ac amaeth a’r amgylchedd.

Prif Weinidog Cymru a’i Gabinet sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ynghylch y cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli iddi. Mae Gweinidogion Cymru yn atebol i Senedd Cymru sef corff deddfwriaethol Cymru sydd â 60 o aelodau etholedig.

Caiff Gweinidogion Cymru eu cefnogi gan oddeutu 5,000 o weision sifil gydag oddeutu hanner ohonynt yn gweithio yng Nghaerdydd a’r gweddill ohonynt wedi’u lleoli yn swyddfeydd eraill Llywodraeth Cymru ledled Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd bychain yn Llundain ac ym Mrwsel ac mae rhwydwaith tramor ar waith hefyd ar gyfer masnachu a buddsoddi. Yr Ysgrifennydd Parhaol sy’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ac mae’n atebol i’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhai o werthoedd craidd Llywodraeth Cymru. Ein nod yw bod yn gyflogwr sy’n esiampl i eraill a chawn ein cefnogi yn hynny o beth gan Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Byrddau. Ceir hefyd rwydweithiau amrywiaeth bywiog sy’n cael eu cefnogi gan uwch hyrwyddwyr a gosodir targedau amrywiaeth er mwyn gwella niferoedd y grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (er enghraifft staff Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a staff anabl ar bob lefel a menywod ar lefelau uwch). Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r model cymdeithasol o anabledd yn ein sefydliad yn ogystal â sicrhau addasiadau o ran recriwtio ac addasiadau yn y gweithle er mwyn sicrhau cydraddoldeb i staff anabl. Yn ddiweddar, cyhoeddom strategaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a hynny gan ein bod yn benderfynol o gynyddu amrywiaeth yn y byrddau a reoleiddir a byrddau eraill yng Nghymru. Mae’r broses o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020-2025 wedi nodi ein gweledigaethau ar gyfer ein cyflogaeth ein hunain.

Etholwyd Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2021 ac rydym wedi nodi ein blaenoriaethau yn ein Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen ac yn ein Strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb. Ein huchelgais yw sicrhau bod Cymru yn wlad hunan hyderus, ffyniannus ac iach a sicrhau cymdeithas sy’n deg i bawb. Mae oddeutu 25% o’r £1 biliwn sy’n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru yn dod o drethi Cymru.

Mae’r ffaith bod y Deyrnas Unedig wedi ymadael â’r UE ddiwedd Ionawr 2020 a’r trafodaethau rhyngwladol dilynol ynghylch dyfodol perthynas y DU a’r UE a dyfodol cytundebau masnach y DU â gwledydd eraill wedi cael effaith sylweddol ar Gymru ac ar waith Llywodraeth Cymru. Mae ein perthynas gyfansoddiadol â Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig eraill yn parhau i ddatblygu. Yn ogystal, ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Safonau’r Gymraeg. Mae’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i’r Gwasanaeth Sifil weithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol er mwyn gwella’r gwaith o ddatblygu polisïau a gwella gwasanaethau i bobl Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog. Caiff deddfwriaeth ei chreu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae gan y ddwy iaith statws cyfreithiol cyfartal. Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn ac nad oes rheidrwydd arnoch i allu siarad Cymraeg er mwyn gweithio i Lywodraeth Cymru, fe fyddai’r sgiliau hynny wir yn gaffaeliad. Rhaid i ymgeiswyr werthfawrogi dwyieithrwydd a rhannu ein hymrwymiad i hybu’r Gymraeg er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu Cymraeg, a datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Job Opp Block

Cyfleoedd

Diolch i chi am gyflwyno'r ffurflen hon, cewch eich ailgyfeirio i gwblhau'r broses ymgeisio.

Os nad ydych yn ailgyfeirio o fewn 3s, cliciwch ar y botwm isod

Parhau