Language Switcher

Carousel

EDI

EDI

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy'n rhoi pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd, sy’n niwrowahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain o dan anfantais. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau er mwyn i bob aelod o staff (neu aelodau newydd posibl o staff) allu perfformio ar ei orau.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw berson anabl sy’n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf gofynnol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth ym mhob rhan o’r broses asesu cyn y cyfweliad sy’n dangos eich bod yn bodloni gofynion y disgrifiad swydd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa.

Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd neu os ydych yn niwrowahanol neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon neu am drafod sut y byddem yn gwneud unrhyw addasiadau pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru cyn gynted ag y medrwch a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal. Seilir hyn ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chedwir at yr ymrwymiadau hyn ym mhob cam o'r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymgorffori yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol ac i gynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru drwy chwalu rhwystrau a helpu ein staff i gyd i wireddu eu potensial. Rydyn ni wedi ymrwymo i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl sy'n cael eu tangynrychioli yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (â'r un rhyw ac â rhyw arall), amhariad neu gyflwr iechyd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant o rywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd ar Lefel 3 (Arweinydd). Yn allweddol i gefnogi'r gwaith hwn a darparu cymorth cydweithwyr mae pum Rhwydwaith Staff sy'n cael eu noddi gan y Bwrdd, sef Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol (MESN); Materion y Meddwl (iechyd meddwl a llesiant); PRISM (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Drawsryweddol, Ryngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

Job Opp Block

Cyfleoedd

Diolch i chi am gyflwyno'r ffurflen hon, cewch eich ailgyfeirio i gwblhau'r broses ymgeisio.

Os nad ydych yn ailgyfeirio o fewn 3s, cliciwch ar y botwm isod

Parhau