Language Switcher

Carousel

Welcome

Croeso

Diolch ichi am eich diddordeb hyd yma yn y swydd Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu a’r swydd Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu. Gan rannu ychydig mwy o fanylion a chyd-destun â chi, gobeithiaf y byddwch yn ystyried y ddwy swydd yn gyfleoedd cyffrous ichi o ran gyrfa.

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae’r Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn cefnogi’r Gweinidogion Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys newid hinsawdd, seilwaith, materion gwledig, a thai ac adfywio.

Mae cyfrifoldebau’r grŵp yn cynnwys ystod o weithgareddau sy’n amrywio o heriau sy’n ymwneud â sicrhau Cymru Sero Net erbyn 2050; sicrhau bod gan bobl gartrefi cynnes, diogel, o safon uchel ac sy’n effeithlon o ran ynni i fyw ynddynt; datblygu cynllun ffermio cynaliadwy i’r dyfodol; cefnogi’r sector bwyd a’r sector morol yn ogystal â chyflawni seilwaith yr 21ain ganrif a fydd yn ein symud tuag at system drafnidiaeth carbon isel.

  • rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy
  • goruchwylio system gynllunio a rheoliadau adeiladu Cymru
  • cefnogi ein sectorau amaeth a bwyd
  • sicrhau iechyd a lles anifeiliaid
  • cefnogi’r gwaith o adfywio cymunedau
  • gweithredu polisïau o ran datblygu cynaliadwy

Mae Rheoliadau Adeiladu yn rhan fawr o nifer o bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys mynd i’r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo, datblygu cynaliadwy a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal ag un sy’n hanfodol bwysig ar hyn o bryd sef diogelwch adeiladau. Ers datganoli polisi a phwerau sy’n ymwneud â Rheoliadau Adeiladu i Weinidogion Cymru yn 2012, rydym wedi dechrau gosod cyfeiriad sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru a’n cyfrifoldebau byd-eang ehangach.

Wedi’r drychineb tân yn Nhŵr Grenfell yn 2017 ac er cof am y rhai hynny a fu farw, mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ati â chyfres o gamau gweithredu. Nod y rhain yw datrys diffygion sylweddol y systemau rheoleiddio presennol, o ran y gwaith adeiladu ond hefyd o ran y prosesau meddiannu dilynol. Mae’r ffaith bod Cymru wedi’i chynnwys yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn rhoi’r pwerau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r cam cyntaf sy’n ymwneud â dylunio ac adeiladu. Disgwylir y bydd deiliaid y ddwy swydd hon yn gweithio’n agos â chydweithwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu’r ail gam sef adeiladau preswyl nad ydynt wedi’u meddiannu. Nid gor-ddweud yw datgan bod y gwaith hwn o ddiwygio’r system rheoli adeiladau yn cynrychioli’r newid mwyaf o ran rheoleiddio gwaith adeiladu ers cyflwyno Deddf Adeiladu 1984.

Mae’r cyfleoedd hyn yn gyfleoedd cyffrous i’r unigolion cywir. Bydd y ddwy swydd yn gofyn am sefydlu a datblygu cysylltiadau gydag eraill gan arwain tîm o weithwyr technegol a chyffredinol sy’n gweithio mewn partneriaeth i gyflawni canlyniadau gwell. Disgrifir y ddwy swydd yn rhai arbenigol sy’n gofyn am wybodaeth a dealltwriaeth eang o agweddau technegol rheoliadau adeiladu, yn benodol mewn perthynas ag adeiladau a diogelwch tân a newid hinsawdd a’r rheoliadau sy’n rheoli’r meysydd hyn.

Job Opp Block

Cyfleoedd

Diolch i chi am gyflwyno'r ffurflen hon, cewch eich ailgyfeirio i gwblhau'r broses ymgeisio.

Os nad ydych yn ailgyfeirio o fewn 3s, cliciwch ar y botwm isod

Parhau