Carousel

Premium template - client text

Croeso

Diolch am eich diddordeb hyd yn hyn yn swydd Pennaeth y Tîm Cydarolygu; gydag ychydig mwy o fanylion a chyd-destun hyderaf y byddwch yn gweld hwn fel cyfle diddorol iawn i ddatblygu’ch gyrfa.  

Wedi trychineb tân Tŵr Grenfell yn 2017, ac er cof am y rhai hynny a fu farw yno, mae’n rhaid inni oll ymrwymo i ddysgu gwersi ar ôl y digwyddiad ofnadwy hwn a gweithredu ar eu sail.  Gyda’n gilydd mae’n rhaid inni sicrhau bod ein hadeiladau preswyl yn ddiogel i bobl fyw ynddynt.  Mae hynny’n gofyn am gyfraniad gan bawb sy’n ymwneud â chodi adeiladau preswyl a’u cynnal a’u cadw, yn unol â chanfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Hackitt: “Mae tryloywder gwybodaeth a thrywydd archwilio gydol oes adeilad wrth ei gynllunio, preswylio ynddo a’i gynnal a’i gadw adeg y preswylir ynddo yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd a thystiolaeth fod adeilad wedi’i adeiladu’n ddiogel a’i fod yn dal yn ddiogel.”

Wrth ffurfio’r Tîm Cydarolygu mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i helpu a chefnogi asiantaethau gorfodi i weithredu pan mae angen er mwyn sicrhau fod adeiladau preswyl uwch nag 11 metr yn ddiogel rhag y perygl o dân ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu.  Y nod yn y pen draw yw rhoi gwerth ychwanegol i’r gwaith y mae cynghorau ac awdurdodau tân ac achub eisoes yn ei wneud ar lawr gwlad, gan gynnwys canfod atebion i broblemau dyrys ac anodd, meithrin perthnasau da ac ymateb i’r anghenion a nodir.

Dyma gyfle cyffrous i’r unigolyn addas – rhywun sy’n mwynhau sefydlu timau newydd a helpu i roi trefn arnynt, gan ddarparu arweinyddiaeth a gosod y cyfeiriad i’r Tîm Cydarolygu, meithrin perthnasau cadarnhaol a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni canlyniadau gwell.  Mae gofyn hefyd am ddealltwriaeth gyffredinol o’r agweddau technegol ar ddiogelwch adeiladau a diogelwch tân a’r rheoliadau sydd mewn grym yn y meysydd hynny.  Un o’r pethau pwysicaf yw ymrwymo’n llwyr i wella diogelwch adeiladau yng Nghymru gyda phwyslais ar yr angen i warchod pobl a rhoi sicrwydd iddynt eu bod yn byw mewn mannau diogel.

Gallaf ddweud hefyd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn lle bendigedig i weithio – a hynny ar sail gweithio i’r Gymdeithas ers mwy nag ugain mlynedd mewn gwahanol swyddi.  Cynhaliodd IPSOS Mori arolwg yn ddiweddar a ganfu fod y Gymdeithas yn uchel ei pharch ymysg Aelodau’r Senedd yng Nghymru, bod ganddi amryw gysylltiadau gwaith da gyda chyrff yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector yng Nghymru, a hefyd â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol; rydym hefyd yn gweithio’n dda â’n chwaer-sefydliadau, sef yr LGA, COSLA a NILGA, sy’n golygu y gallwn godi llais ar y cyd ar ran llywodraeth leol yn ogystal â rhannu ein gwybodaeth a’n profiadau.  Bu Brian Castle o Dîm Cydarolygu’r LGA yn Lloegr o gymorth mawr wrth drafod sefydlu’r Tîm Cydarolygu yng Nghymru ac rydym yn falch o’r gefnogaeth.  Wrth weithio ynghanol Caerdydd bydd ein polisi gweithio ystwyth yn rhoi cryn hyblygrwydd ichi gyflawni’r swydd yn unol ag anghenion y busnes, ac felly bydd gan uwch-swyddogion fel deiliad y swydd hon gyfle i ffurfio eu timau eu hunain a llunio’u rhaglenni gwaith eu hunain ar y cyd ag eraill.  Bydd gennych hefyd gefnogaeth sefydliad sy’n ymdrin ag amrywiaeth aruthrol o feysydd ac aelodau o staff sy’n barod i rannu eu gwybodaeth a’u cysylltiadau, gan gynnwys swyddogion ac aelodau gwleidyddol.   Mae hon yn swydd â phroffil uchel a byddwch hefyd yn meithrin cyswllt â Gweinidogion sydd â chryn ddiddordeb yng ngwaith y Tîm Cydarolygu. 

Prin yw’r cyfleoedd am swydd fel hon yng Nghymru, ac felly os ydych chi’n meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r ymroddiad angenrheidiol rwy’n gobeithio y byddwch yn meddwl o ddifrif am ymgeisio amdani.  Wrth weithio â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid rydym yn ymrwymo i sicrhau bod y Tîm Cydarolygu’n cynnig cymorth effeithiol wrth wella diogelwch adeiladau preswyl uchel ledled y wlad a magu hyder pobl ynddynt.

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais am y swydd.

Naomi Alleyne – Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Hays Microsite jobs listing

Y cyfle

Jobs Location Salary null

There are currently no openings available, please check back later.

If you would like to take a look at all of the opportunities Hays has to offer in the meantime, please visit hays.co.uk.

Visit hays.co.uk

Location

Location