Am WLGA
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Llais Cynghorau Cymru
Ni yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Rydym yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru.
Y 22 Cynghorau yng Nghymru yw ein aelodau ac mae'r tri awdurdod tân ac achub ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Rydym yn credu bod y syniadau sy’n newid bywydau pobl yn digwydd yn lleol.
Mae cymunedau ar eu gorau pan maent yn teimlo eu bod wedi cysylltu â’u cyngor trwy ddemocratiaeth leol. Trwy gefnogi, hwyluso a chyflawni’r cysylltiadau hyn, gallwn ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n caniatáu i gymunedau ffynnu.
Ein prif nod yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau awdurdodau lleol yng Nghymru.
Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth drwy
- Hybu rôl ac amlygrwydd cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau
- Sicrhau disgresiwn lleol mwyaf mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol
- Cefnogi a sicrhau cyllid cynaliadwy a hirdymor i gynghorau
- Hybu gwelliant o dan arweiniad sector
- Annog democratiaeth leol fywiog, sy’n hybu mwy o ddemocratiaeth
Cefnogi Cynghorau i reoli eu gweithlu yn effeithiol
Y cyfle
Jobs | Location | Salary | null |
---|
There are currently no openings available, please check back later.
If you would like to take a look at all of the opportunities Hays has to offer in the meantime, please visit hays.co.uk.